Sacsoffon

Sacsoffon

Dydd Sadwrn 25th Gorffennaf 2020 - Dydd Sadwrn 1st Awst 2020
9:00 yb


Aberystwyth Arts Centre
Penglais
Aberystwyth SY23 3DE

Reserve Space(s)

Tiwtoriaid

Y Cwrs

Mae’r cwrs sacsoffon MusicFest wedi’i gynllunio i fod yn wythnos hwyliog ac yn procio’r meddwl o ysbrydoliaeth yr haf ar gyfer sacsoffonyddion clasurol p’unai o oedran ysgol, yn conservatoire neu brifysgol, neu gerddorion amatur. Bydd yn cynnwys sesiynau dosbarth meistr, gyda chymorth piano, a gwersi unigol, yn ogystal â chwarae mewn grŵp siambr, ensemble sacsoffon mwy o faint, a thrafodaethau sy’n cynnig dulliau o ymdrin â thechneg offerynnol, ymarfer, perfformio, a gwrando. Cwrs delfrydol ar gyfer myfyrwyr sacsoffon sy’n paratoi ar gyfer arholiadau gradd neu ddiploma, clyweliadau o unrhyw fath, cystadlaethau – neu dim ond chwilio am wythnos ffrwythlon o chwarae, dysgu, a mynd i gyngherddau.

Bydd y cwrs yn cynnwys dwy sacsoffonwyrsy’n cael eu parchu’n rhyngwladol fel tiwtoriaid – Kyle Horch (DU) a Lars Lien (Norwy).

Kyle Horch yw’r athro sacsoffon yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Llundain yn Ystafell Purcell yn 1989, mae wedi perfformio fel unawdydd a cherddor siambr mewn llawer o leoliadau ym Mhrydain a thramor. Mae ei recordiau  ChamberSaxAngloSax a Flotilla wedi cael canmoliaeth ryngwladol gan adolygwyr. Mae wedi gweithio gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Birmingham, Cerddorfa Symffoni Bournemouth, Ballet Brenhinol Birmingham, Cwmni Dawns Rambert, yr Ensemble Siambr ‘Counterpoise’, a Cherddorfa Ddawns Piccadilly. Mae wedi rhoi dosbarthiadau meistr ym Mhrydain, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Norwy, Gwlad Belg, y Swistir, Singapore, Awstralia, ac UDA.

Lars Lien yw’r athro sacsoffon yn UIT Norges Arkisket Universitet  – Prifysgol Arctic Norwy – yn Tromsø. Mae wedi perfformio fel unawdydd a cherddor siambr yn Norwy, Ewrop, a’r UDA, gan gynnwys gyda sacsoffon concentus,  NoXas, Affinis Ensemble, a’r Oslo. Yn 2015 rhyddhaodd recordiad unigol o gerddoriaeth gyfoes arloesol ar gyfer sacsoffon a llais, “phonetix” ar label LAWO.

Mae’r ffi dysgu ar gyfer y cwrs hwn yn £650 ac eithrio llety, sy’n cynnwys caniatâd i bob cyngerdd yn ystod MusicFest. Mae gostyngiadau cynnar ar gael ar yr holl gyrsiau ag archebwyd ac y talwyd amdanynt yn llawn cyn 29 Chwefror.

Mae Cyfeillion MusicFest yn dyfarnu nifer cyfyngedig o fwrsariaethau tuag at ffioedd dysgu, felly mae cais cynnar yn ddoeth. Mae bwrsariaethau o £260 ar gael i bob myfyriwr mewn addysg llawn amser yn y DU a bwrsarïau a £180 ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Gweler y dudalen ffioedd a bwrsariaethau am ragor o fanylion.

Cynigir llety hunan-arlwyo a en-suite am bris gostyngol i fyfyrwyr MusicFest mewn neuaddau preswyl y Brifysgol, neu gallwch archebu llety eich hun y tu allan i’r Brifysgol.  Gweler y dudalen llety am fanylion pellach.

Request a space on this course

You can request a space on this course here. Applications will be reviewed, and if accepted we will send full information on course joining and fee payment via email. We aim to respond within 7 days to your reservation request.

If you are booking more than one place, you will need to fill in application details for each potential student. Mandatory fields are marked with *

Bookings are closed for this event.

Date(s) - Dydd Sadwrn 25th Gorffennaf 2020 - Dydd Sadwrn 1st Awst 2020
9:00 yb