Mae arfordir ysblennydd Bae Ceredigion yng ngorllewin Cymru yn gefndir gwych ar gyfer yr wythnos ysbrydoliedig hon. Mae Musicfest Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gymysg deniadol o ŵyl gerddoriaeth ac ysgol haf; o brofiad a dysgu; o berfformiad a gwerthfawrogiad. Mae ennyn diddordeb y gynulleidfa, y myfyriwr a’r artist fel ei gilydd yn creu awyrgylch gymunedol unigryw  yr ŵyl  – ‘ adfywiol, gwobrwyol a llawn ysbrydoliaeth ‘.

Am un wythnos mae pawb yn byw, anadlu ac yn breuddwydio cerddoriaeth

Ysgol Haf

Mae’r ysgol haf yn unigryw gan gynnig hyfforddiant unigol, cyfleoedd cerddoriaeth Siambr strwythuredig, profiad cerddorfa a phrofiad o berfformio.

 

Cyngherddau Gŵyl

Mae’r cyngherddau dyddiol gyda’r nos ag amser cinio, ynghyd â pherfformiadau’r cyntedd i fyfyrwyr a chyngherddau myfyrwyr trawiadol ar ddiwedd yr wythnos yn ein hatgoffa o’r effaith ieuangu o wrando ar gerddoriaeth fyw o safon mor uchel. Am lyfryn cyngerdd cliciwch yma.

Cefnogi Musicfest

Trwy eu nawdd a’u rhoddion hael, mae ein cyfeillion elusennol MusicFest Aberystwyth yn cefnogi cerddorion ifanc addawol na fyddai fel arall yn gallu fforddio mynychu MusicFest, gan eu galluogi i elwa o hyfforddiant proffesiynol rhagorol.