Ffidil

Ffidil

Dydd Llun 27th Gorffennaf 2020 - Dydd Sadwrn 1st Awst 2020
9:00 yb - 5:00 yh


Aberystwyth Arts Centre
Penglais
Aberystwyth SY23 3DE

Reserve Space(s)

Tiwtor

Tiwtor ffidil unigol: Sigyn Fossnes

Y Cwrs

Wythnos ddwys o astudio’r ffidil gyda’r tiwtor Sigyn Fossnes. Bydd y cwrs yn cynnwys amser cynhesu/techneg i bawb bob dydd, gwersi ar gyfer unigolion a grwpiau bach, dosbarth perfformio dyddiol gyda chyfeilydd i bawb. Bydd digon o amser hefyd ar gyfer ymarfer unigol a chyfleoedd perfformio mewn amryw o gyngherddau arddangos.

Mae Sigyn Fossnes wedi bod yn athro cysylltiol yn Sefydliad Cerddoriaeth Barratt Due, Norwy. Mae hi’n dysgu talentau ifanc a myfyrwyr, a mae ei myfyrwyr wedi derbyn nifer fawr o wobrau. Mae hi hefyd yn gyd-arweinydd “Valdres sommersymfoni”, ysgol haf cerddoriaeth Norwy. Addysgwyd hi fel fiolinydd yn Academi Gwladwriaeth Norwy ac Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, Llundain, gan astudio gyda’r athro Detlef Hahn.  Roedd hi ‘n gyn- fiolinydd mewn Cerddorfa Symffoni Stavanger, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi perfformio gyda’r Ensemble Ernst a chydweithiwr. Cafodd ei CD gyntaf, a’r CD-Pedwarawd eu henwebu i’r wobr Norwyaidd “Spelemannprisen”, ac yn 2005 derbyniodd  y wobr: “Perfformiwr y Flwyddyn”.

Mae’r ffi dysgu ar gyfer y cwrs hwn yn £650 ac eithrio llety, sy’n cynnwys caniatâd i bob cyngerdd yn ystod MusicFest. Mae gostyngiadau i archebion cynnar ar gael ar yr holl gyrsiau ag archebwyd ac y talwyd amdanynt yn llawn cyn 29 Chwefror.

Mae Cyfeillion MusicFest yn dyfarnu nifer cyfyngedig o fwrsariaethau tuag at ffioedd dysgu, felly mae cais cynnar yn ddoeth. Mae bwrsariaethau o £260 ar gael i bob myfyriwr mewn addysg llawn amser yn y DU a bwrsarïau a £180 ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Gweler y dudalen ffioedd a bwrsariaethau  am ragor o fanylion.

Cynigir llety hunan-arlwy a en-suite am bris gostyngol i fyfyrwyr MusicFest mewn neuaddau preswyl Prifysgol, neu gallwch archebu llety eich hun y tu allan i’r brifysgol. Gweler y dudalen llety am fanylion pellach.

Ffurflen archebu isod.

 

MusicFest2015_KM126DL

 

Request a space on this course

You can request a space on this course here. Applications will be reviewed, and if accepted we will send full information on course joining and fee payment via email. We aim to respond within 7 days to your reservation request.

If you are booking more than one place, you will need to fill in application details for each potential student. Mandatory fields are marked with *

Bookings are closed for this event.

Date(s) - Dydd Llun 27th Gorffennaf 2020 - Dydd Sadwrn 1st Awst 2020
9:00 yb - 5:00 yh