Tir na N’og
Yn olaf, bydd cerddorfa gymunedol Philomusica Aberystwyth yn perfformio campwaith angof David de Lloyd o’r 1930au, Tir na N’og (gwlad ieuenctid tragwyddol), ochr yn ochr ag aelodau Sinfonia Cymru a’r unawdwyr Cymreig blaenllaw Rhian Lois a Trystan Llŷr Griffiths mewn cyngerdd sydd hefyd yn cynnwys première byd-eang concerto feiolin gan y cyfansoddwr Iranaidd-Americanaidd Kian Ravaei, a ddatblygwyd trwy raglen ddatblygu talent CERDDWN, a berfformir gan y feiolinydd ifanc o Aberystwyth Tom Mathias, ac offeryniaeth newydd o ganeuon yn y Gymraeg gan de Lloyd, Englynion ar Gân.