Sinfonia Cymru: Cerddoriaeth Siambr ar Raddfa Fawr

Sinfonia Cymru: Cerddoriaeth Siambr ar Raddfa Fawr

When

24 July 2026    
7:30 pm - 10:00 pm

Where

Great Hall, Aberystwyth Arts Centre
Penglais, Aberystwyth, SY23 3DE
Map Unavailable

Wythawd, Noned, Dected a mwy – dyma gerddoriaeth siambr ar raddfa fawr. Mae arweinydd Sinfonia Cymru, Haim Choi, yn camu i’r sbotolau i gyfarwyddo rhaglen gyffrous sy’n llawn llawenydd, digymhellrwydd ac egni trydanol. Yn ganolog i’r cyngerdd hwn ceir Wythawd eiconig Mendelssohn, cynnyrch dychymyg ieuenctid, wedi’i llunio a’i pherfformio gyda bywiogrwydd nodweddiadol Haim. Ochr yn ochr â hon ceir Noned Louise Farrenc, cyfansoddiad cain a phwerus sy’n llawn haeddu’r sylw na chafodd hyd yma. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys Dected Françaix a Noned Mustonen, y ddwy yn cyfuno’r modern â’r hiraethus yn chwareus, fel cardiau post cerddorol o gyfnod arall. Hefyd mae gennym wledd arbennig: trefniant newydd sbon o D’un matin de printemps Lili Boulanger ar gyfer pedwar ar ddeg o gerddorion, dathliad disglair o’r gwanwyn.

Ymunwch â Sinfonia Cymru ar gyfer y rhaglen wych hon sy’n llawn bywyd ac egni pefriol.

Haim Choi – Cyfarwyddwr / Feiolin

Rhaglen:

Lili Boulanger (trefniant newydd) D’un matin de printemps
Noned Louise Farrenc: Adagio-Allegro
Jean Françaix Dixtuor: III.Scherzando IV. Allegro
Olli Mustonen Nonetto II: I. Inquieto II. Allegro Impetuoso III. Adagio IV. Vivacissimo
Wythawd Felix Mendelssohn: I. Allegro moderato ma con fuoco II. Andante III. Scherzo: Allegro leggierissimo IV. Presto