Ysgol Haf

Ysgol Haf

Wedi’i leoli yng Nghanolfan y Celfyddydau a’r cyffiniau, mae’r ysgol haf yn cynnwys disgyblaethau solo, ffidil, soddgrwth, clarinét a sacsoffon, yn ogystal â llais, cyfansoddi, arwain, band chwyth ac ensembles siambr.

Mae cyrsiau MusicFest yn agored i bob cerddor dros 16 oed, (er bod rhai cyrsiau yn caniatáu myfyrwyr iau gyda hebryngwyr).

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau yn cynnwys tair neu bedair sesiwn hyfforddi 90 munud bob dydd sy’n arwain at ‘gyngerdd arddangos’ tuag at ddiwedd yr wythnos. Mae gan bob cwrs gyfeilydd proffesiynol a fydd yn gweithio gyda’r myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau.

Mae’r rhaglen o gyngherddau yn llawn ac yn amrywiol ac yn cynnwys artistiaid o fri cenedlaethol a rhyngwladol ar y cyrsiau ysgol haf, ac anogir i fyfyrwyr mynychu cymaint o’r cyngherddau â phosibl er mwyn ehangu eu gwybodaeth o repertoire, ac i gael eu hysbrydoli ac i ‘ddysgu trwy wrando’.

Solem Quartet in Aberystwyth 2014 by Keith Morris

Llety

Ffioedd a Bwrsariaethau

Cyrsiau