urioste_14_0131re-600x400Ar Nos Sadwrn 11eg Mawrth bydd dau gerddor sydd ag enw da yn rhyngwladol, Tom Poster ac Elena Urioste, yn perfformio yn Aberystwyth mewn cyngerdd rhad ac am ddim a drefnir gan Gyfeillion MusicFest. Cynhelir y cyngerdd yn Hen Neuadd yr Hen Goleg am 7.30PM.

Mae Tom Poster yn ffefryn adnabyddus gyda chynulleidfaoedd lleol, sydd wedi bod yn perfformio  ym  MusicFest ers blynyddoedd lawer – mae’n bianydd uchel ei fri gyda diddordeb arbennig mewn rhaglennu creadigol. Ymunir ag ef gan Elena Urioste a fydd yn perfformio o flaen cynulleidfaoedd Aberystwyth am y tro cyntaf.  Dewiswyd Elena Urioste yn ddiweddar fel artist Cenhedlaeth Newydd y BBC; mae hi wedi rhoi perfformiadau clodfawr gyda cherddorfeydd blaenllaw ledled yr Unol Daleithiau ac Ewrop  gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Cherddorfa Hallé.

Mae’r cerddorion yn hael iawn yn cyfrannu eu hamser yn rhad ac am ddim fel rhan o ymdrechion Cyfeillion MusicFest i godi arian ar gyfer bwrsarïau i gefnogi cerddorion ifanc i fynychu Ysgol Haf Ryngwladol MusicFest. Bydd nifer o fusnesau lleol yn cefnogi’r noson gan gynnwys y Mecca (siop de a choffi arbenigol), Tŷ Gemwaith, Siop Flodau Columbine, a Llyfrau Ystwyth.

Dywedodd Carol Nixon o Gyfeillion MusicFest, “’Rydym wrth ein bodd bod Tom Poster wedi cytuno, unwaith eto, i gefnogi ein hymdrechion i godi arian.  Mae Tom yn wyneb cyfarwydd i selogion cerddoriaeth glasurol  Aber eisoes, y pianydd gyda’r cyffyrddiad melfed a’r fortes dramatig. Ymunir ag ef ‘nawr gan y feiolinydd Americanaidd Elena Urioste – mae ei thôn ariannaidd a’i sgiliau meistrolgar wedi ennill enw da iddi fel unawdydd ledled America ac Ewrop. Gyda’i gilydd maent yn creu byd cerddorol na fydd llawer o wrandawyr wedi ei glywed o’r blaen.  Mae’r rhaglen yn cynnwys dau ddarn sylweddol gan Grieg, a nifer helaeth o ddarnau byrrach hwyliog, gan gynnwys Gershwin. Mi fydd yn rhaglen amrywiol hyfryd sy’n cynnig cyfle prin i weld dau gerddor anhygoel yn perfformio  AM DDIM.”