Newyddion
Gwybodaeth am yr ŵyl eleniMusicFest Aberystwyth yn cyhoeddi eu Gŵyl Gerdd Ryngwladol 2021
Yn 2021, ‘rydym yn ymrwymedig at ddarparu profiad Musicfest gwych yn unol â safonau uchel y gorffennol. Er nad ydym yn medru cynnal ein hysgol haf wyneb yn wyneb eleni, ‘rydym yn dilyn ein llwyddiant yn 2020 gyda phrofiad ysgol haf digidol ac ‘rydym yn gweithio’n galed i ddarparu amrywiaeth o gyrsiau ar-lein gyda thiwtoriaid sy’n uchel eu parch yn rhyngwladol. Eleni ‘rydym wrth ein bodd hefyd yn cyflwyno profiad cyngherddol gwahanol gyda chymysgedd o weithgareddau ar-lein ac mewn-person arbennig yn nodweddu artistiaid rhynglwadol yn cynnwys Guy Johnston, Tom Poster & Chymundod Siambr Kaleidoscope, Pedwarawd Solem, a Yshani Perinpanayagam, yn ogystal â gosodwaith digidol a gomisiynwyd yn arbennig a’n gweithgareddau ymylol poblogaidd ledled Aberystwyth.
2021 Gosod Digidol: Galw am bobl greadigol
Mae MusicFest Aberystwyth yn gyffrous i gyhoeddi galwad i bobl greadigol gydweithio ar osodiad digidol arbennig, mewn partneriaeth ag Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.