
Saturday 25th July 2020 - Saturday 1st August 2020
All Day
Aberystwyth Arts Centre
Penglais
Aberystwyth SY23 3DE
Reserve Space(s)
Tiwtoriaid
- Veronica Veysey Campbell
- John Flinders
- Liza Hobbs
- Dr Ron Morris
- Dinah Harris
- Libby Burgess
- Christina Lawrie
Y Cwrs
Bydd cantorion yn cael y cyfle i weithio mewn amgylchedd hamddenol a sensitif. Mae’r cwrs wedi cael ei gynllunio i alluogi’r cyfranogwyr i ennill gwybodaeth ehangach o repertoire lleisiol a mwy o hyder mewn perfformiad a thechneg. Bydd pob diwrnod yn dechrau gyda sesiwn cynhesu dan arweiniad i bawb sy’n cymryd rhan, a fydd wedyn yn gwahanu’n dri grŵp. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio gyda’r grwpiau’n gyfartal.
Bydd y tiwtor gwadd, Dr Ron Morris o Awstralia, yn ymuno â ni unwaith eto yn ystod yr wythnos. Mae profiad Ron fel gwyddonydd llais, therapydd iaith a lleferydd, canwr ac athro ysbrydoledig yn gwneud hyn yn debygol o fod yn brofiad dysgu unigryw a thrawsnewidiol i bob canwr.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer cantorion 17 oed i fyny sydd o ddifrif am eu hastudiaethau. Gellir gofyn i ymgeiswyr nad yw’r tiwtoriaid yn eu adnadob i ddarparu recordiad sain i gadarnhau eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs. Mae dull y tiwtoriaid yn anffurfiol, ond bob amser yn gefnogol ac yn anogol. Mae’n wythnos brysur a bywiog a’n nod yw bod pawb yn gadael gyda mwy o frwdfrydedd dros ganu a chyda sgiliau gwell. Nod y cwrs yw ymdrin â llawer o agweddau ganu gan gynnwys: sgiliau perfformio, techneg, dehongliad, arddull, cyfathrebu, ieithoedd, meithrin hyder, profiad o weithio gyda phianydd a pharatoi at glyweliadau.
Bydd yr addysgu mewn sesiynau o fath dosbarth meistr, a gall cyfranogwyr ddisgwyl gweithio’n llafar bob dydd. Mae pwysigrwydd gwrando’n astud ar fyfyrwyr eraill yn cael eu hyfforddi yn ogystal â pherfformio eu hunain yn cael ei bwysleisio’n gryf drwy gydol yr wythnos. Bydd yr hyfforddiant unigol yn benodol ond bydd hefyd yn gwneud pwyntiau cyffredinol y gall y rhai sy’n cymryd rhan eu defnyddio yn eu perfformiadau eu hunain.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gyrru ei dewisiadau o repertoire erbyn dydd Llun 8fed Mehefin. Bydd y rhain yn uchafswm o chwe darn, gyda un i’w ddewis o’r categorïau canlynol: cân gelf Saesneg, mélodie Ffrangeg , Lied Almaenig, operatig neu oratorio aria, cân Eidaleg neu Sbaeneg ac un darn o theatr gerddorol. Bydd y tiwtoriaid yn dewis y repertoire terfynol a bydd y myfyrwyr yn cael eu hysbysu ymhell cyn y cwrs fel y gellir paratoi a dysgu’r gerddoriaeth yn drylwyr.
Mae’r ffi dysgu ar gyfer y cwrs hwn yn £650 ac eithrio llety, sy’n cynnwys caniatâd i bob cyngerdd yn ystod Musicfest. Mae gostyngiadau cynnar ar gael ar yr holl gyrsiau a archebwyd ac y talwyd amdanynt yn llawn cyn 29 Chwefror.
Mae Cyfeillion MusicFest yn dyfarnu nifer cyfyngedig o fwrsariaethau tuag at ffioedd dysgu, felly mae cais cynnar yn ddoeth. Mae bwrsariaethau o £260 ar gael i bob myfyriwr mewn addysg llawn amser yn y DU a bwrsarïau a £180 ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Gweler y dudalen ffioedd a bwrsariaethau am ragor o fanylion.
Cynigir llety hunan-arlwy a en-suiteo am bris gostyngol i fyfyrwyr MusicFest mewn neuaddau preswyl y Brifysgol, neu gallwch archebu llety eich hun y tu allan i’r Brifysgol. Gweler y dudalen llety am fanylion pellach.
Adborth gan MusicFest Cyfranogwyr y Cwrs Lleisiol
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un a phawb. Wythnos wych gyda chantorion ac athrawon gwych. Cwrs gwirioneddol arbennig. ” A.L.
“Roeddwn i’n edrych ymlaen ato drwy’r flwyddyn, fe wnaeth fy nghanu wella cymaint ac roedd yr holl brofiad yn hael, yn werthfawrogol ac yn llawn brwdfrydedd.” W.S.
“Dydw i erioed wedi cael cymaint o hwyl mewn wythnos o waith dwys! Cynyddodd fy lefel o ganu a pherfformio yn ddramatig.” K.H.
“Mae’r cwrs lleisiol yn Aberystwyth yn darparu amgylchedd anogol lle mae’r myfyriwr yn teimlo’n rhydd i arbrofi’n dechnegol ac yn gerddorol, ac felly’n gallu cyflawni cynnydd mawr.” G.N.
“Mae MusicFest wedi meithrin, iacháu, a gwella nid yn unig fy llais, ond hefyd fy nghariad am gerddoriaeth a’m cysylltiad emosiynol i’r gerddoriaeth rwy’n canu ac yn gwrando arni. Mae’n llythrennol, dechrau gweddill fy mywyd.” C.G.
“Erioed yn fy mywyd rydw i wedi cael wythnos fwy llawen a buddiol o ganu a dysgu. Ni allaf goelio faint y mae fy llais wedi agor mewn ychydig ddyddiau yn unig. Rwyf mor ddiolchgar am bopeth yr ydych wedi ei roi i mi yma. Diolch.”
“Mae’r cwrs hwn yn wahanol iawn o ran cynnig dull technegol cydlynol sy’n hynod werthfawr ar gyfer datblygu cantorion a dull addysgu tîm sy’n cefnogi ac yn gwerthfawrogi ymagwedd pawb. Mae’r tiwtoriaid yn fedrus, yn sensitif, yn hael ac yn ofalgar ac rwyf wedi dysgu llawer iawn gan bob un ohonynt. Diolch am wythnos ddiddorol a gwerth chweil. ”
* * Nodwch fod angen i chi fod yn 17 oed neu’n hŷn i gadw lle ar y cwrs hwn.
Request a space on this course
You can request a space on this course here. Applications will be reviewed, and if accepted we will send full information on course joining and fee payment via email. We aim to respond within 7 days to your reservation request.
If you are booking more than one place, you will need to fill in application details for each potential student. Mandatory fields are marked with *
Bookings are closed for this event.