Mae arfordir ysblennydd Bae Ceredigion yng Ngorllewin Cymru yn gefndir hyfryd ar gyfer yr wythnos ysbrydoledig hon o Fyw Cerddoriaeth. Mae gŵyl MusicFest Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gyfuniad deniadol o Ŵyl Gerddoriaeth ac Ysgol Haf; o brofiad a dysgu; o berfformiad a gwerthfawrogiad.  Mae’r berthynas rhwng cynulleidfa, myfyriwr ac artist yn eu tro yn creu awyrgylch cymunedol unigryw MusicFest - ‘yn adfywiol, yn fuddiol ac yn gwbl ysbrydoledig’

Am wythnos gyfan mae pawb yn byw, yn anadlu ac yn breuddwydio am gerddoriaeth

Ysgol Haf

Mae’r Ysgol Haf yn unigryw gan gynnig cyfleoedd ac hyfforddiant cerddoriaeth siambr strwythuredig, yn ogystal â phrofiadau dysgu gwych trwy’r rhaglen o gyngherddau a roddir gan y tiwtoriaid eu hunain: mae’r rhain yn berfformwyr blaenllaw yn ogystal ag athrawon ysbrydoledig.

Coaching and encouragement at MusicFest

Cyngherddau’r Ŵyl

Mae’r cyngherddau amser cinio a min nos bob dydd, ynghyd â pherfformiadau gan y myfyrwyr yn y cyntedd a chyngherddau gwefreiddiol gan y myfyrwyr ar ddiwedd yr wythnos, yn ein hatgoffa am effeithiau pŵerus ac adfywiol gwrando ar gerddoriaeth fyw o safon uchel.  

Performance at MusicFest

Cefnogwch MusicFest

Trwy eu nawdd a chyfraniadau hael, mae Cyfeillion MusicFest Aberystwyth yn cefnogi cerddorion ifanc addawol na fyddent fel arall efallai yn medru fforddio mynychu MusicFest, gan eu galluogi i fanteisio ar hyfforddiant proffesiynol gwych.

Support the MusicFest

Rhagor o gyfleoedd ar gyfer cerddorion ifanc

Mae Brawdoliaeth Iau MusicFest a’n cynlluniau Cyfnewid Myfyrwyr yn cynorthwyo cerddorion ifanc i ymestyn eu gorwelion ac i ymgymryd â sialensiau newydd.

Gwelwch fanylion
Chamber music at MusicFest Aberyswyth